Stori Malala

Malala_540x298“Cyfyngodd y Taliban ein haddysg, ac fe fynnont nad oedd merched i fynd ar gyfyl yr ysgol  ddim rhagor. Hon oedd adeg waethaf fy mywyd. Ond nid oeddem yn hidio dim, mi wnaethon ni barhau â’n haddysg”.

Ar 9 Hydref, 2012, saethwyd y ferch ysgol 15 mlwydd oed Malala Yousafzai
yn farw gan y Taliban oherwydd iddi wneud safiad dros ei hawl i fynd i’r
ysgol ym Mhacistan. Mae’r Taliban yn grwp eithafol. Maent o’r farn na ddylai
merched gael eu trin yr un fath â dynion. Peryglodd Malala ei bywyd er
mwyn dweud ei dweud ar ran pob merch nad oedd yn cael mynd i’r ysgol.
Erbyn heddiw, mae Malala yn symbol o obaith, gwytnwch a dewrder drwy’r
byd.

Fe addawodd arweinwyr y byd addysg i bob plentyn erbyn 2015, ond mae
60 miliwn o blant ar eu colled o hyd am nad ydynt yn mynd i’r ysgol.
Mynegwch eich barn o blaid stori Malala, a chefnogwch hawl bob plentyn i
gael addysg.

Download resources